SL(5)046 – Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2016

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn (Rheoliadau 2016) yn diwygio Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012 (Rheoliadau 2012).

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur) yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), i gynnal arolwg trwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac ymgeiswyr sydd wedi sefyll i gael eu hethol yn gynghorwyr i gyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol neu i gyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol. Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) ac mae'n darparu bod rhaid cynnal yr arolwg cyn neu ar ôl pob etholiad cyffredin, ac yn dileu'r gofyniad i awdurdodau lleol drefnu i wybodaeth gael ei darparu yn ddienw.

Mae Rheoliadau 2012 yn rhagnodi'r cwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn. Mae rheoliadau 3 a 4 yn Rheoliadau 2016 yn diwygio Rheoliadau 2012 ac yn mewnosod arolwg newydd yn Rheoliadau 2012. Mae'r arolwg diwygiedig yn debyg i'r arolwg yn Rheoliadau 2012, ond gan ychwanegu cwestiynau adnabod unigryw y gellir eu defnyddio i sefydlu a gafodd y sawl sy'n ymateb i'r arolwg ei ethol yn gynghorydd. Bydd y diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol gofyn cwestiynau gwahanol yn dibynnu a yw'r arolwg yn cael ei gynnal cyn neu ar ôl etholiad cyffredin.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion craffu technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn. (Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae adran 1(5) o Fesur 2011 yn datgan nad oes dim yn adran 1 sy'n gosod dyletswydd ar unigolyn i ddarparu unrhyw wybodaeth mewn arolwg perthnasol.

Bydd llythyr gan y Gweinidog yn cael ei roi i bob ymgeisydd, i egluro dibenion yr arolwg. Deellir y bydd y geiriad yn adran 1(5) o Fesur 2011 yn cael ei ddefnyddio yn llythyr y Gweinidog a'r Canllawiau i'r Rheoliadau presennol, er mwyn hysbysu ymgeiswyr nad oes unrhyw ddyletswydd arnynt i ddarparu gwybodaeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Ionawr 2016